Page images
PDF
EPUB

datguddied ei ddolur, er mwyn cael, trwy weinidogaeth sanctaidd Air Duw, fawrlles gollyngdod, gyda chyngor ac addysg ysprydol, tuagat llonyddu ei gydwybod, a'i ryddhâu oddiwrth bob amheuaeth a phetrusder.

Neu, lle y gwelo efe y bobl yn esgeulus am ddyfod i'r Cymmun bendigedig, yn lle y cyntaf efe a arfer y Cyngor yma.

that by the ministry of God's holy Word he may receive the benefit of absolution, together with ghostly counsel and advice, to the quieting of his conscience, and avoiding of all scruple and doubtfulness.

¶ Or, in case he shall see the people negligent to come to the holy Com munion, instead of the former, he shall use this Exhortation.

ANWYL garedigion frodyr, DEARLY beloved brethren,

y mae yn fy mryd, trwy râs Duw, finistrio Swpper yr Arglwydd i'r hwn o ran Duw y'ch gwahoddaf bawb a'r y sydd yma yn gydrychiol, ac a attolygaf iwch', er cariad ar yr Arglwydd Iesu Grist, na wrthodoch ddyfod iddo, gan eich bod mor garedigol wedi eich galw a'ch gwahodd gan Dduw ei hunan. Chwi a wyddoch mor ofidus, ac mor angharedig o beth yw, pan fo gwr wedi arlwyo gwledd werthfawr, wedi trwsio ei fwrdd â phob rhyw arlwy, megis na bai ddim yn eisiau, ond y gwahoddedigion i eistedd; ac etto y rhai a alwyd (heb ddim achos) yn anniolchusaf yn gwrthod dyfod. Pwy o honoch chwi yn y cyfryw gyflwr ni chyffröai? pwy ni thybygai wneuthur cam a sarhâd mawr iddo? Herwydd paham, fy anwyl garediccaf frodyr yng Nghrist, gwyliwch yn dda, rhag i chwi, wrth ymwrthod â'r Swpper sancteiddiol hwn, annog bâr Duw i'ch erbyn. Hawdd i ddyn ddywedyd, Ni chymmunaf fi, o herwydd bod negesau bydol i'm rhwystro. Eithr y cyfryw esgusodion nid ydynt mor hawdd cael eu derbyn yn gymmeradwy ger bron Duw. Os dywaid neb, Yr wyf fi yn bechadur brwnt, ac am hynny yn ofni dyfod: pa'm gan hynny nad ydych chwi yn edi

I intend, by God's grace, to celebrate the Lord's Supper: unto which, in God's behalf, I bid you all that are here present; and beseech you, for the Lord Jesus Christ's sake, that ye will not refuse to come thereto, being so lovingly called and bidden by God himself. Ye know how grievous and unkind a thing it is, when a man hath prepared a rich feast, decked his table with all kind of provision, so that there lacketh nothing but the guests to sit down; and yet they who are called (without any cause) most unthankfully refuse to come. Which of you in such a case would not be moved? Who would not think a great injury and wrong done unto him? Wherefore, most dearly beloved in Christ, take ye good heed, lest ye, withdrawing yourselves from this holy Supper, provoke God's indignation against you. It is an easy matter for a man to say, I will not communicate, because I am otherwise hindered with worldly business. But such excuses are not so easily accepted and allowed before God. If any man say, I am a grievous sinner, and therefore am afraid to come: wherefore then do ye not repent and amend?

У

farhâu, ac yn gwellhâu? Pan fo Duw yn eich galw, onid oes gywilydd arnoch ddywedyd, na ddeuwch? Pan ddylech chwi ymchwelyd at Dduw, a ymesgusodwch chwi, a dywedyd, nad ydych barod? Ystyriwch yn ddifrif ynoch eich hunain, leied a dâl y cyfryw goeg esgusodion ger bron Duw. Y rhai a wrthodasant Y wledd yn yr Efengyl, oblegid iddynt brynu tyddyn, neu brofi eu hieuau ychain, neu oblegid eu prïodi, ni chawsant felly mo'u hesgusodi, ond eu cyfrif yn annheilwng o'r Wledd nefol. Myfi, o'm rhan i, a fyddaf barod; ac, o herwydd fy swydd, yr ydwyf yn eich gwahodd yn Enw Duw, yr wyf i'ch galw o ran Crist; ac, megis y caroch eich iachawdwriaeth eich hunain, yr wyf i'ch cynghori i fod yn gyfrannogion o'r Cymmun bendigedig hwn. Ac, fel bu wiw gan Fab Duw ymado â'i einioes, gan drengu ar y groes dros eich iechyd chwi; felly yn yr un modd y dylech chwithau gymmeryd y Cymmun, er cof am offrymmiadaeth ei angau ef, fel y gorchymmynodd efe ei hun. Yn awr, os chwychwi a esgeuluswch wneuthur hyn, meddyliwch ynoch eich hunain, faint y camwedd yr ydych yn ei wneuthur à Duw, ac mor flin yw'r boen y sydd goruwch eich pennau am hynny; pan ydych yn anhydyn yn ymgadw oddiwrth Fwrdd yr Arglwydd, ac yn ymneillduo oddiwrth eich brodyr, y rhai sy'n dyfod i ymborthi ar Wledd y nefolaidd luniaeth hwnnw. Os chwi a ddyfal ystyriwch y pethau hyn, trwy râs Duw chwi a ddychwelwch i feddwl a fo gwell; er mwyn caffael o honoch hynny, nid arbedwn ni wneuthur yn OStyngedig ein herfyniau i'r Hollalluog Dduw ein Tad nefol.

When God calleth you, are ye not ashamed to say ye will not come? When ye should return to God, will ye excuse yourselves, and say ye are not ready? Consider earnestly with yourselves how little such feigned excuses will avail before God. They_that_refused the feast in the Gospel, because they had bought a farm, or would try their yokes of oxen, or because they were married, were not so excused, but counted unworthy of the heavenly feast. I, for my part, shall be ready; and, according to mine Office, I bid you in the Name of God, I call you in Christ's behalf, I exhort you, as ye love your own salvation, that ye will be partakers of this holy Communion. And as the Son of God did vouchsafe to yield up his soul by death upon the Cross for your salvation; so it is your duty to receive the Communion in remembrance of the sacrifice of his death, as he himself hath commanded: which if ye shall neglect to do, consider with yourselves how great injury ye do unto God, and how sore punishment hangeth over your heads for the same; when ye wilfully abstain from the Lord's Table, and separate from your brethren, who come to feed on the banquet of that most heavenly

food. These

things if ye earnestly consider, ye will by God's grace return to a better mind: for the obtaining whereof we shall not cease to make our humble petitions unto Almighty God our heavenly Father.

¶ Ar amser Ministriad y Cymmun, a'r Cymmunwŷr wedi eu cyfleu yn weddus i gymmeryd y Sacrament bendigedig, yr Offeiriad a ddywaid y Cyngor hwn.

¶ At the time of the celebration of the Communion, the Communicants being conveniently placed for the receiving of the holy Sacrament, the Priest shall say this Exhortation.

NWVI garedigion yn yr DEARLY beloved in the

A Arglwydd,,

sydd yn

meddwl dyfod i fendigedig Gymmun Corph a Gwaed ein Iachawdwr Crist, rhaid i chwi ystyr ied y modd y mae Sant Paul yn cynghori pawb i'w profi ac i'w holi eu hunain yn ddyfal, cyn iddynt ryfygu bwytta o'r Bara hwnnw, ac yfed o'r Cwppan hwnnw. Canys fel y mae'r lles yn fawr, os â chalon wîr edifeiriol, ac â bywiol ffydd, y cymmerwn y Sacrament bendigedig hwnnw (canys yna yr ŷm ni yn ysprydol yn bwytta Cig Crist, ac yn yfed ei Waed ef; yna yr ydym yn trigo yng Nghrist, a Christ ynom ninnau; yr ŷm ni yn un å Christ, a Christ â ninnau) felly y mae'r perygl yn fawr, os ni a'i cymmer yn annheilwng. Canys yna yr ym ni yn euog o Gorph a Gwaed Crist ein Iachawdwr; yr ydym ni yn bwytta ac yn yfed ein barnedigaeth ein hunain, heb ystyried Corph yr Arglwydd; yr ydym yn ennyn digofaint Duw i'n herbyn; yr ym ni yn ei annog ef.i'n pläu âg amrafael glefydau, ac amryw fath ar angau. Bernwch gan hynny eich hunain (frodyr) megis na'ch barner gan yr Arglwydd; gwir-edifarhêwch am eich pechodau a aeth heibio; bid gennych fywiol a dïogel ffydd yng Nghrist ein Iachawdwr; gwellhêwch eich buchedd, a byddwch mewn cariad perffaith â phawb: felly y byddwch weddus gyfrannogion o'r Dirgeledigaethau sancteiddiol hyn. Ac o flaen pob peth y mae'n rhaid i chwi roddi gostyngeiddiaf a charediccaf ddiolch i Dduw Dad, y Mab, a'r Yspryd Glân, am bryn

Lord, ye that mind to come to the holy Communion of the Body and Blood of our Saviour Christ, must consider how Saint Paul exhorteth all persons diligently to try and examine themselves, before they presume to eat of that Bread, and drink of that Cup. For as the benefit is great, if with a true penitent heart and lively faith we receive that holy Sacrament; (for then we spiritually eat the flesh of Christ, and drink his blood; then we dwell in Christ, and Christ in us; we are one with Christ, and Christ with us;) so is the danger great, if we receive the same unworthily. For then we are guilty of the Body and Blood of Christ our Saviour; we eat and drink our damnation, not considering the Lord's Body; we kindle God's wrath against us; we provoke him to plague us with divers diseases, and sundry kinds of death. Judge therefore yourselves, brethren, that ye be not judged of the Lord; repent you truly for your sins past; have a lively and stedfast faith in Christ our Saviour; amend your lives, and be in perfect charity with all men; so shall ye be meet partakers of those holy mysteries. And above all things ye must give most humble and hearty thanks to God, the Father, the Son, and the Holy Ghost, for the redemption of the world by the death and passion of our Saviour Christ, both God and man;

own

edigaeth y byd trwy angau a dïoddefaint ein Iachawdwr Crist, Duw a dyn, yr hwn a ymostyngodd i angau'r groes, drosom ni bechaduriaid truain, y rhai oeddym yn gorwedd mewn tywyllwch a chysgod angau, fel y gallai efe ein gwneuthur ni yn blant i Dduw, a'n dyrchafael i fywyd tragywyddol. Ac, er cofio o honom yn wastad ddirfawr gariad ein Harglwydd a'n hunig Iachawdwr Iesu Grist, fel hyn yn marw drosom, a'r aneirif ddoniau daionus, y rhai, trwy dywallt ei werthfawr waed, a ynnillodd efe ini; efe a osododd ac a ordeiniodd sanctaidd ddirgeledigaethau, fel gwystlon o'i gariad, a gwastadol gof am ei angau, er mawr ac annherfynol ddiddanwch i ni. Gan hynny iddo ef, gyda'r Tad a'r Yspryd Glân, rhoddwn (fel yr ym yn rhwymediccaf) wastadol ddiolch; gan ymostwng yn gwbl i'w sanctaidd ewyllys a'i orchymmyn ef, a myfyrio ei wasanaethu ef mewn gwir sancteiddrwydd a chyfiawnder, holl ddyddiau ein heinioes. Amen.

Yna y dywaid yr Offeiriad wrth y rhai a fo'n dyfod i gymmeryd y Cymmun bendigedig,

CHW

HWYCHWI y sawl sydd yn wir ac yn ddifrifol yn edifarhâu am eich pechodau, ac y sydd mewn cariad perffaith â'ch cymmydogion, ac yn meddwl dilyn buchedd newydd, a chanlyn gorchymmynion Duw, a rhodio o hyn allan yn ei ffyrdd sancteiddiol ef; Deuwch yn nes trwy ffydd, a chymmerwch y Sacrament sancteiddiol hwn i'ch cysur, a gwnewch eich gostyngedig gyffes i'r Holl-alluog Dduw, gan ostwng yn ufudd ar eich gliniau.

¶ Yna y dywedir y Gyffes gyffredin hon, yn enw pawb o'r rhai a fyddont ar feddwl cymmeryd y Cym

who did humble himself, even to the death upon the Cross, for us, miserable sinners, who lay in darkness and the shadow of death; that he might make us the children of God, and exalt us to everlasting life. And to the end that we should alway remember the exceeding great love of our Master, and only Saviour, Jesus Christ, thus dying for us, and the innumerable benefits which by his precious blood-shedding he hath obtained to us; he hath instituted and ordained holy mysteries, as pledges of his love, and for a continual remembrance of his death, to our great and endless comfort. To him therefore, with the Father and the Holy Ghost, let us give (as we are most bounden) continual thanks; submitting ourselves wholly to his holy will and pleasure, and studying to serve him in true holiness and righteousness all the days of our life. Amen.

[blocks in formation]

mun bendigedig, gan un o'r Gweinidogion; yntau a'r bobl oll yn gostwng yn ufudd ar eu gliniau, ac yn dywedyd,

H

[OLL-alluog Dduw, Tad ein

Harglwydd Iesu Grist, Gwneuthurwr pob dim, Barnwr pob dyn; Yr ŷm ni yn cydnabod ac yn ymofidio dros ein hamryw bechodau a'n hanwiredd, Y rhai o ddydd i ddydd yn orthrymmaf a wnaethom, Ar feddwl, gair, a gweithred, Yn erbyn dy Dduwiol Fawredd, Gan annog yn gyfiawnaf dy ddigofaint a'th fâr i'n herbyn. Yr ydym yn ddifrifol yn edifarhâu, Ac yn ddrwg gan ein calonnau dros ein cam-weithredoedd hyn: Eu coffa sy drwm gennym; Eu baich sydd anrhaith ei oddef. Trugarhâ wrthym, Trugarhâ wrthym, drugaroccaf Dad; Er mwyn dy un Mab ein Harglwydd Iesu Grist, Maddeu i ni yr hyn oll a aeth heibio; A chaniattâ i ni allu byth o hyn allan dy wasanaethu a'th foddloni mewn newydd-deb buchedd, Er anrhydedd a gogoniant dy Enw; Trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.

Yna yr Offeiriad (neu'r Esgob, os bydd yn gydrychiol) a saif, gan droi at y bobl, ac a ddatgan y Gollyngdod hren.

TOLL-alluog

the holy Communion, by one of the Ministers; both he and all the people kneeling humbly upon their knees, and saying,

ALMIGHTY God, Father of our Lord Jesus Christ, Maker of all things, Judge of all men; We acknowledge and bewail our manifold sins and wickedness, Which we, from time to time, most grievously have committed, By thought, word, and deed, Against thy Divine Majesty, Provoking most justly thy wrath and indignation against us. We do earnestly repent, And are heartily sorry for these our misdoings; The remembrance of them is grievous unto us; The burden of them is intolerable. Have mercy upon us, Have mercy upon us, most merciful Father; For thy Son our Lord Jesus Christ's sake, Forgive us all that is past; And grant that we may ever hereafter Serve and please thee In newness of life, To the honour and glory of thy Name; Through Jesus Christ our Lord.

Amen.

Then shall the Priest (or the Bishop, being present,) stand up, and turning himself to the people, pronounce this Absolution.

H nefol, yr hwndir, ein Tad ALMIGHTY God, our hea

garedd a addawodd faddeuant pechodau i bawb gan edifeirwch calon a gwir ffydd a ymchwel atto; A drugarhâo wrthych, a faddeuo i chwi, ac a'ch gwaredo oddiwrth eich holl bechodau, a'ch cadarnhâo ac a'ch cryfhâo ym mhob daioni, ac a'ch dygo i fywyd tragywyddol; trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.

¶Ar ol hynny y dywaid yr Offeiriad, Gwrandewch pa ryw eiriau cysurus a ddywed ein Iachawdwr

venly Father, who of his great mercy hath promised forgiveness of sins to all them that with hearty repentance and true faith turn unto him; Have mercy upon you; pardon and deliver you from all your sins; confirm and strengthen you in all goodness; and bring you to everlasting life; through Jesus

Christ our Lord. Amen.

¶ Then shall the Priest say, Hear what comfortable words

« PreviousContinue »